Pad thai

Pad Thai

Pryd o fwyd o Wlad Thai yw pad thai. Mae'n cynnwys nwdls reis tro-ffriedig, ac mae'n boblogaidd fel bwyd stryd ac yn y mwyafrif o fwytai yng Ngwlad Thai a ledled y byd.[1] Mae'r cynhwysion fel arfer yn cynnwys nwdls reis, berdys, cyw iâr neu tofu, cnau daear, wyau wedi eu sgramblo, ac egin ffa. Bydd y rhain yn cael eu ffrio'n ysgafn mewn woc gyda saws pad thai.

  1. Mayyasi, Alex (7 Tachwedd 2019). "The Oddly Autocratic Roots of Pad Thai". Gastro Obscura. Atlas Obscura. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2019.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy